Back
New report takes temperature of Cardiff's ‘well-being'

 

 

                               

For immediate release

New report takes temperature of Cardiff's ‘well-being'

Cardiff Council has published its annual Well-Being Report - a comprehensive self-assessment of how well it is delivering services and meeting objectives set out in its Corporate Plan for 2022-25.

The report focuses on seven main themes:

  • Cardiff is a great place to grow up;
  • Cardiff is a great place to grow older;
  • Supporting people out of poverty;
  • Safe, confident and empowered communities;
  • A capital city that works for Wales;
  • Cardiff grows in a resilient way, and
  • Modernising and integrating our public services.

To compile the report, the council carries out a regular assessment of its performance. This process involves reviewing progress made against the key indicators of success included in the Corporate Plan, plus other measures of performance such as finance monitoring, the findings of audit inspections, survey results and the compliments and complaints made by members of the public.

Introducing the report, the Council leader, Cllr Huw Thomas, said there were many positives to be drawn from it. "This shows how well the city is doing in terms of looking after its citizens, whatever their age and wherever they live.

"Clearly, there is still much to be done and we are still feeling the effects of the pandemic, especially in schools where attendance remains a concern. But in many other areas, we have returned to pre-pandemic levels of performance and, in some areas, exceeded them.

"The firm conclusion to be drawn from this, is that Cardiff remains a great place to live, to grow old and to prosper. We will continue to work to ensure this remains the case for many years to come."

REPORT HIGHLIGHTS

  • Cardiff is a great place to grow up

There has been ‘sustained improvement' in the quality and effectiveness of the city's education service, with school inspection outcomes mainly positive and GCSE results for 2022 higher than the previous comparable year, 2019.

Nevertheless, challenges remain, with four schools in a category of ‘follow-up' and one needing significant improvement. Attendance levels are also a concern, along with a rise in the number of permanent exclusions since the pandemic. However, the number of permanent exclusions are 15% down on the current academic year, compared with last year.

There is high and rising demand for children's services and insufficient placements, along with ‘challenges' in the recruitment of social workers. In addition, the most significant challenge faced during the year in this area has been the lack of placements for children looked after. At the end of the financial year, the number of children looked after by local authority foster carers was at an all-time high of 129, whilst the number looked after by external fosters carers was an all-time low of 308 - a positive shift away from reliance on external foster carers.

  • Cardiff is a great place to grow older

The number of people in Cardiff aged 65 and over has grown by 16% over the last 10 years but older people on average are reporting higher well-being than other groups in the city. However, there is a shortage of care workers and the recruitment and retention of social workers and occupational therapists remains a ‘significant issue'.

As part of the Council's drive to became an official ‘Age Friendly City', it has launched a number of initiatives including enabling older people to connect digitally and stay active in the community, a Dementia Friendly Volunteer Programme and expanding the city's day centre activities programme.

The council is also committed to delivering modern older persons' housing that supports independent living, including 44-care ready apartments in Rumney.

  • Supporting people out of poverty

Last year, a total of 65,989 people were helped with Covid-related and Universal Credit financial support but the number of people who are becoming homeless has increased substantially, said the report.

Around 8,000 people are on the council house waiting list but the need to rapidly extend access to housing is a corporate priority.

With the council's status as a Living Wage City secure for a further three years, helping people into work is also a priority and 4,227 Council posts have been filled through placements from Cardiff Works, the Council's in-house recruitment agency, with a further 1,115 clients supported into employment through its Employment Gateway initiative.

Since the last report, the Council has become a top 100 employer in the Stonewall Workplace Equality Index survey - the highest placed local authority overall - and has retained its Gold award. In addition, the Race Equality Taskforce has completed its review of the council's operations and each of its recommendations have been accepted.

Areas of immediate progress include the Council's Into Work team enhancing their outreach work to support ethnic minority groups access employment opportunities, the launch of a pilot leadership development programme to increase the diversity of future managers and increasing the visibility of Black and Minority Ethnic (BME) role models through sponsoring the annual Betty Campbell Memorial Lecture.

  • Safe, confident and empowered communities

While Cardiff is a safe city there are differences in people's view of the city depending on where they live with those in the more affluent areas of the city twice as likely to describe themselves as ‘very satisfied' than those in the most deprived suburbs.

But the Council is continuing to invest in all its communities, with a focus on the most deprived areas, having already built more than 800 affordable new homes, and a target of 4,000 overall.

During 2022-23, more than 4.5 million people visited the Council's Hubs and libraries and 97% agreed via the Ask Cardiff survey that their requirements had been met. The same survey also reported that more than 74% of people were satisfied with the parks and open spaces in their neighbourhoods than any other amenity.

  • A capital city that works for Wales

Cardiff's economy is the driver of employment growth in Wales and the city is steadily returning to pre-pandemic levels of activity, with a footfall of 43 million people last year as live and cultural events have returned, although income recovery at Council venues remains a challenge.

Work is progressing on the Metro Central programme which will create a link between the city centre and the Bay. Around £100m has been secured to deliver the Cardiff Crossrail project while other initiatives, including the opening of the canal on Churchill Way, the Multi-Purpose Indoor Arena, and next phase of the International Sports Village, are also moving forward.

On the events front, the Council is developing a bid to be a host city for the 2028 European Football Championships which will be a significant opportunity to put Cardiff on the sporting global stage.

  • Cardiff grows in a resilient way

Cardiff has the second highest CO2 emissions per capita of all the UK's core cities but the Council is taking forward a series of transport, renewable energy, housing retrofit and flood mitigation projects which have made good progress over the year.

At Council level, there has been a 13% reduction in direct operational CO2 emissions between 2019-20 and 2021-22, largely due to reduced electricity consumption while improvements in air quality across the city have been seen.

Recycling is showing a positive increase and a new recycling strategy has been approved which will help the Council to meet statutory targets going forward.

To improve street cleanliness in Cardiff, Love Where You Live ‘Blitz' teams have been deployed across the city targeting problem areas, including Cathays, Plasnewydd, Splott and the southern arc. This has resulted in high standards of cleanliness and a reduction in complaints in these areas.

  • Modernising and integrating our public services

In line with businesses and the public, the council faces significant financial challenges because of energy pricing, pay pressures and other factors. To ensure its resilience, the council has taken a proactive approach to making savings.

The ability for citizens to access Council services online has continued to expand and increasing numbers of people - currently 74,000 - registered on the CardiffGov app.

Working with suppliers has also had wider benefits for the community, and there are currently 33 ‘live' contracts which include social value commitments which will deliver £7.6m of social benefits.

The Well-Being Report will be discussed at the Policy Review & Performance Scrutiny Committee, tomorrow at 4.30pm.  To view a live webcast of the meeting on the day, follow this linkAgenda for Policy Review and Performance Scrutiny Committee on Wednesday, 12th July, 2023, 4.30 pm : Cardiff Council (moderngov.co.uk)

The full report can be viewed here:(Public Pack)Agenda Document for Policy Review and Performance Scrutiny Committee, 12/07/2023 16:30 (moderngov.co.uk)

The report will then go to Cabinet for approval from 2pm on Thursday, July 13. A live stream of that meeting will be available to view hereAgenda for Cabinet on Thursday, 13th July, 2023, 2.00 pm : Cardiff Council (moderngov.co.uk)


(ends) 

Media and Communications officer, Martin Wells Tel: 07792 879910

Email: martin.wells@cardiff.gov.uk


 

                               

I'w rhyddhau ar unwaith

 

Adroddiad newydd yn mesur 'lles' Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi ei Adroddiad Lles blynyddol - hunanasesiad cynhwysfawr o ba mor dda y mae'n darparu gwasanaethau ac yn bodloni amcanion a nodir yn ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-25.

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar saith prif thema:

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu;
  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn;
  • Cefnogi pobl allan o dlodi;
  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus;
  • Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru;
  • Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn, a
  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus.

I lunio'r adroddiad, mae'r cyngor yn cynnal asesiad rheolaidd o'i berfformiad.  Mae'r broses hon yn cynnwys adolygu'r cynnydd a wnaed yn erbyn y dangosyddion llwyddiant allweddol a gynhwysir yn y Cynllun Corfforaethol, yn ogystal â mesurau perfformiad eraill fel monitro cyllid, canfyddiadau arolygiadau archwilio, canlyniadau'r arolwg a'r ganmoliaeth a'r cwynion a wneir gan aelodau'r cyhoedd.

Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, fod llawer o bethau cadarnhaol i'w dysgu ohono. "Mae hyn yn dangos pa mor effeithiol mae'r ddinas yn gofalu am ei dinasyddion, beth bynnag fo'u hoedran a ble bynnag maen nhw'n byw.

"Yn amlwg, mae llawer i'w wneud o hyd ac rydym yn dal i deimlo effeithiau'r pandemig, yn enwedig mewn ysgolion lle mae presenoldeb yn parhau i fod yn bryder.  Ond mewn llawer o feysydd eraill, rydym wedi dychwelyd i'r lefelau perfformiad blaenorol cyn y pandemig ac, mewn rhai meysydd, wedi rhagori arnynt.

"Y casgliad pendant yw bod Caerdydd yn parhau i fod yn lle gwych i fyw, i dyfu'n hŷn ac i ffynnu. Byddwn yn dal ati i weithio i sicrhau bod hyn yn parhau i fod yn wir am flynyddoedd lawer i ddod."

UCHAFBWYNTIAU'R ADRODDIAD

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu

Bu 'gwelliant parhaus' yn ansawdd ac effeithiolrwydd gwasanaeth addysg y ddinas, gyda chanlyniadau arolygon ysgolion yn gadarnhaol yn bennaf a chanlyniadau TGAU ar gyfer 2022 yn uwch na'r flwyddyn gymharol flaenorol, 2019.

Serch hynny, mae heriau'n parhau, gyda phedair ysgol mewn categori 'camau dilynol' ac un angen gwelliant sylweddol. Mae lefelau presenoldeb hefyd yn bryder, ynghyd â chynnydd yn nifer y gwaharddiadau parhaol ers y pandemig. Fodd bynnag, mae nifer y gwaharddiadau parhaol 15% yn is yn y flwyddyn academaidd bresennol, o gymharu â'r llynedd.

Mae yna alw uchel a chynyddol am wasanaethau plant a phrinder lleoliadau, ynghyd â 'heriau' wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol. Yn ogystal, yr her fwyaf a wynebwyd yn ystod y flwyddyn yn y maes hwn oedd y diffyg lleoliadau i blant sy'n derbyn gofal. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd nifer y plant sy'n derbyn gofal gan ofalwyr maeth yr awdurdod lleol ar ei uchaf erioed ar 129, tra bod y nifer sy'n derbyn gofal gan ofalwyr maeth allanol yn 308, y nifer isaf erioed - symudiad cadarnhaol i ffwrdd o ddibynnu ar ofalwyr maeth allanol.

  • Mae Caerdydd yn lle gwych i dyfu'n hŷn

Mae nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n 65 oed a throsodd wedi cynyddu 16% dros y 10 mlynedd diwethaf, ond mae pobl hŷn ar gyfartaledd yn nodi lefelau lles gwell na grwpiau eraill yn y ddinas. Fodd bynnag, mae yna brinder gweithwyr gofal ac mae recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol a therapyddion galwedigaethol yn parhau i fod yn 'broblem sylweddol'.

Fel rhan o ymgyrch y Cyngor i ddod yn 'Ddinas sy'n Dda i Bobl Hŷn' swyddogol, mae wedi lansio nifer o fentrau gan gynnwys galluogi pobl hŷn i gysylltu'n ddigidol a chadw'n actif yn y gymuned, Rhaglen Gwirfoddolwyr sy'n Deall Dementia ac ehangu rhaglen gweithgareddau canolfan ddydd y ddinas.

Mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i ddarparu tai pobl hŷn modern sy'n cefnogi byw'n annibynnol, gan gynnwys 44 o fflatiau gofal-barod yn Nhredelerch.

  • Cefnogi pobl allan o dlodi

Y llynedd, cafodd cyfanswm o 65,989 o bobl gymorth gyda chefnogaeth ariannol yn ymwneud â Covid a Chredyd Cynhwysol ond mae nifer y bobl sy'n dod yn ddigartref wedi cynyddu'n sylweddol, meddai'r adroddiad.

Mae tua 8,000 o bobl ar restr aros tai'r cyngor ond mae'r angen i ymestyn mynediad i dai yn gyflym yn flaenoriaeth gorfforaethol.

Gyda statws y cyngor fel Dinas Cyflog Byw yn ddiogel am dair blynedd arall, mae helpu pobl i gael gwaith hefyd yn flaenoriaeth, ac mae 4,227 o swyddi'r Cyngor wedi'u llenwi trwy leoliadau gwaith drwy Caerdydd ar Waith, asiantaeth recriwtio fewnol y Cyngor, gyda 1,115 o gleientiaid pellach yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth drwy'r fenter Porth Cyflogaeth.

Ers yr adroddiad diwethaf, mae'r Cyngor wedi dod yn un o'r 100 cyflogwr gorau yn arolwg Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall - yr awdurdod lleol sy'n perfformio orau yn gyffredinol - ac mae wedi cadw ei wobr Aur. Yn ogystal, mae'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol wedi cwblhau ei adolygiad o weithrediadau'r cyngor ac mae pob un o'i argymhellion wedi'u derbyn.

Mae'r meysydd o gynnydd uniongyrchol yn cynnwys tîm Gwasanaeth i Mewn i Waith y Cyngor yn gwella eu gwaith allgymorth i gefnogi grwpiau lleiafrifoedd ethnig i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, lansio rhaglen datblygu arweinwyr beilot i gynyddu amrywiaeth rheolwyr y dyfodol a chynyddu gwelededd modelau rôl Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) drwy noddi Darlith Goffa flynyddol Betty Campbell.

  • Cymunedau diogel, hyderus a grymus

Er bod Caerdydd yn ddinas ddiogel, mae gwahaniaethau ym marn pobl o'r ddinas yn dibynnu ar le maen nhw'n byw, gyda'r rhai yn ardaloedd mwy cefnog y ddinas ddwywaith yn fwy tebygol o ddisgrifio eu hunain fel 'bodlon iawn' na'r rhai yn y maestrefi mwyaf difreintiedig.

Ond mae'r Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ei holl gymunedau, gan ganolbwyntio ar yr ardaloedd mwyaf difreintiedig - mae eisoes wedi adeiladu dros 800 o gartrefi newydd fforddiadwy, gyda tharged o 4,000 i gyd.

Yn ystod 2022-23, ymwelodd mwy na 4.5 miliwn o bobl â Hybiau a llyfrgelloedd y Cyngor a chytunodd 97% drwy arolwg Holi Caerdydd fod eu gofynion wedi'u bodloni. Adroddodd yr un arolwg hefyd fod mwy na 74% o bobl yn fodlon â'r parciau a'r mannau agored yn eu cymdogaethau.

  • Prifddinas sy'n gweithio dros Gymru

Economi Caerdydd yw sbardun twf cyflogaeth Cymru ac mae'r ddinas yn dychwelyd yn raddol i'w lefelau gweithgarwch cyn y pandemig, gyda 43 miliwn o ymwelwyr y llynedd wrth i ddigwyddiadau byw a diwylliannol ddychwelyd, er bod adfer incwm yn lleoliadau'r Cyngor yn parhau i fod yn her.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar raglen Metro Central a fydd yn creu cysylltiad rhwng canol y ddinas a'r Bae.  Mae tua £100m wedi'i sicrhau i ddarparu prosiect Cledrau Croesi Caerdydd tra bod mentrau eraill, gan gynnwys agor y gamlas ar Ffordd Churchill, yr Arena Dan Do Amlbwrpas, a cham nesaf y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol, hefyd yn symud yn eu blaenau.

Mewn perthynas â digwyddiadau, mae'r Cyngor yn datblygu cais i fod yn un o'r dinasoedd a fydd yn cynnal Pencampwriaethau Pêl-droed Ewrop 2028 a fydd yn gyfle sylweddol i roi Caerdydd ar lwyfan chwaraeon byd-eang.

  • Mae Caerdydd yn tyfu mewn ffordd gadarn

Caerdydd sydd â'r ail lefel uchaf o allyriadau CO2 y pen o blith holl ddinasoedd craidd y DU ond mae'r Cyngor yn bwrw ymlaen â chyfres o brosiectau trafnidiaeth, ynni adnewyddadwy, ôl-ffitio tai a lliniaru llifogydd sydd wedi gwneud cynnydd da dros y flwyddyn.

Ar lefel Cyngor, bu gostyngiad o 13% mewn allyriadau CO2 gweithredol uniongyrchol rhwng 2019-20 a 2021-22, yn bennaf oherwydd llai o ddefnydd o drydan, tra bod gwelliannau o ran ansawdd aer ar draws y ddinas wedi'u gweld.

Mae ailgylchu'n dangos cynnydd cadarnhaol ac mae strategaeth ailgylchu newydd wedi'i chymeradwyo a fydd yn helpu'r Cyngor i gyrraedd targedau statudol wrth symud ymlaen.

Er mwyn gwella glendid strydoedd Caerdydd, mae timau 'Blitz' Carwch Eich Cartref wedi bod yn gweithio ar draws y ddinas gan dargedu ardaloedd problemus, gan gynnwys Cathays, Plasnewydd, y Sblot a'r arc deheuol. Mae hyn wedi arwain at safonau uchel o lendid a gostyngiad mewn cwynion yn yr ardaloedd hyn.

  • Moderneiddio ac integreiddio ein gwasanaethau cyhoeddus

Yn unol â busnesau a'r cyhoedd, mae'r cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd prisiau ynni, pwysau cyflog a ffactorau eraill. Er mwyn sicrhau ei wydnwch, mae'r cyngor wedi mabwysiadu dull rhagweithiol tuag at wneud arbedion.

Mae'r gallu i ddinasyddion gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor ar-lein wedi parhau i ehangu ac mae niferoedd cynyddol o bobl - 74,000 ar hyn o bryd - wedi cofrestru ar yr ap CardiffGov.

Mae gweithio gyda chyflenwyr hefyd wedi arwain at fanteision ehangach i'r gymuned, ac ar hyn o bryd mae yna 33 o gontractau 'byw' sy'n cynnwys ymrwymiadau gwerth cymdeithasol a fydd yn sicrhau £7.6m o fuddion cymdeithasol.

(diwedd) 

Swyddog y Cyfryngau a Chyfathrebu, Martin Wells Ffôn: 07792 879910

E-bost: martin.wells@caerdydd.gov.uk