- Is there any parking at the venues?
- Unfortunately, we don't have space for cars to park at the cricket venues. If you require parking we suggest you find somewhere safe, secure and suitable outside of the venue.
- What if I'm not in the 16 - 23 years age bracket at time of application?
- As long as you are 16 by the 1st of January 2019 and under 24 by the 15th of July 2019, you will qualify to be part of the programme.
- What is a reserve day?
- If we have abnormal weather conditions(rain) and no play happens, there is a chance we will go to a reserve day. This only happens on the semi-finals and final. Hopefully it won't happen but if it does the reserve days are as follows and we'd ask you to come back:
MATCH | VENUE / CITY | MATCH DAY | RESERVE DAY |
| | | |
Semi Final 1 | Old Trafford, Manchester | 9 July 2019 | 10 July 2019 |
Semi Final 2 | Edgbaston, Birmingham | 11 July 2019 | 12 July 2019 |
Final | Lord's, London | 14 July 2019 | 15 July 2019 |
If we've not answered everything you need to know then please email us onFlagTeam@CWC19.co.uk
CWESTIYNAU CYFFREDIN AM Y TÎM BANERI
- Ydyn ni'n cael gwylio'r gêm criced?
- Ni chewch seddi gwylio yn ystod diwrnod y gêm, ond byddwn yn sicrhau bod gennych le i orffwys wrth gyflawni eich dyletswyddau gyda'r nod o'ch galluogi i wylio rhywfaint o'r gêm griced yn yr ardal hon yn ystod eich amser egwyl.
- Pwy fydd fy mhwynt cyswllt ar ddiwrnod y gêm?
- Bydd aelod o'n Tîm Cyflwyno Chwaraeon yn rhoi ei fanylion cyswllt i chi ar y diwrnodau hyfforddi. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau gallwch ei ffonio neu anfon neges ato.
- Faint o'r gloch bydd angen i fi gyrraedd ar ddiwrnod y gêm?
- Bydd y Tîm Cyflwyno Chwaraeon yn rhoi'r holl amserau i chi ond ar gyfer diwrnod y gêm bydd angen i chi gyrraedd am 07:30 gan aros tan 16:00. Ar gyfer gemau yn ystod y dydd/gyda'r nos, bydd angen i chi gyrraedd erbyn 09:30 a gorffen am 18:00. Dylech nodi y gallech orffen ychydig yn hwyrach os bydd yn bwrw.
- Fyddaf yn cael iwnifform?
- Cewch iwnifform a fydd yn cynnwys esgidiau ymarfer, trowsus, crys T a siaced i sicrhau eich bod yn teimlo'n rhan o dîm Cwpan Criced y Byd.
- A fyddaf yn cael achrediad?
- Byddwch, heb achrediad ni chewch fynediad at y lleoliad ar ddiwrnod y gêm. Pan anfonwn ni'r e-byst cadarnhau, byddwn hefyd yn gofyn i chi lenwi ffurflen fer a chyflwyno llun pasbort. Byddwn wedyn yn rhoi achrediad i chi fel y gallwch gael mynediad i'ch lleoliad ar ddiwrnod y gêm. *DS - os ydych yn iau na 18 oed, bydd gennym broses ychydig yn wahanol i chi gael mynediad i leoliad eich gêm. Peidiwch â phoeni - os ydych yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi'r holl fanylion i chi yn ystod eich sesiwn hyfforddi.
- Ddylwn i ddod â bwyd gyda mi?
- Byddwn yn rhoi bwyd i chi. Cewch becyn cinio a lluniaeth ar ddiwrnodau'r gemau. Cewch botel ddŵr gyda'ch iwnifform hefyd, felly sicrhewch eich bod yn dod â hon.
- Beth os oes gennyf ofynion dietegol?
- Dim problem. Dywedwch wrth ein hasiantaeth Cyflwyno Chwaraeon ar y diwrnodau hyfforddi a byddwn yn sicrhau ein bod yn rhoi rhywbeth addas i chi.
- Beth byddaf yn ei wneud yn ystod yr egwyl yng nghanol y gêm?
- Cewch y cyfle unigryw i fynd ar y cae i helpu i gydlynu'r gemau criced bach rhwng Plant yr Anthemau gyda miloedd o bobl yn gwylio.
- Fyddaf yn cael cerdded ar y cae gyda baner fy nhîm?
- Byddwn yn trio ein gorau - os bydd eich tîm yn chwarae ar y diwrnod hwnnw, byddwn yn gwneud popeth y gallwn i'ch gadael i gludo ei faner ar y cae. Ar gyfer y gemau eraill, rydym am i chi gofio eich bod yno i greu'r olygfa orau i bob gwyliwr yn y safle a'r miliynau o bobl sy'n gwylio ar y teledu ym mhob rhan o'r byd.
- Pam o leiaf 3 gêm?
- Yn ddelfrydol, rydym am i chi fod yno ar gyfer pob gêm, ond rydym yn gwybod y gall fod yno ar gyfer y 5 gêm fod yn anodd. Mae angen i ni sicrhau y caiff y baneri eu rhoi ar y cae mor ddidrafferth â phosibl, felly mae'n hanfodol cael cysondeb o ran y personél sy'n rhan o'r broses hon.
- Fydd angen i mi dalu costau teithio?
- Ein rheswm dros ofyn i chi ddewis y lleoliadau criced sy'n agosaf atoch yw er mwyn lleihau teithio cymaint â phosibl. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau nad ydych ar eich colled a lle bo'n bosibl, gallen ni ddarparu gwasanaeth casglu o ganolfannau dinasoedd (os oes galw uchel am hynny).
- Oes unrhyw fannau parcio yn y lleoliadau?
- Yn anffodus, nid oes gennym fannau i geir barcio yn y lleoliadau criced. Os oes angen man parcio arnoch, rydym yn awgrymu eich bod yn dod o hyd i rywle diogel ac addas y tu allan i'r lleoliad.
- Beth os nad ydw i yn yr ystod 16-23 oed ar adeg ymgeisio?
- Cyhyd â'ch bod yn 16 oed erbyn 1 Ionawr 2019 ac yn iau na 24 erbyn 15 Gorffennaf 2019, byddwch yn gymwys i fod yn rhan o'r rhaglen.
- Beth yw diwrnod wrth gefn?
- Os bydd y tywydd yn wael ac nad oes gêm o ganlyniad, mae'n bosib y byddwn yn newid y gêm i ddiwrnod wrth gefn. Nid yw hyn yn digwydd ond gyda gemau cynderfynol a therfynol. Gobeithio na fydd hyn yn digwydd ond, os bydd yn digwydd, mae'r diwrnodau wrth gefn fel a ganlyn a bydden ni gofyn i chi ddod yn ôl:
GÊM | LLEOLIAD / DINAS | DIWRNOD Y GÊM | DIWRNOD WRTH GEFN |
| | | |
Gêm gynderfynol 1 | Old Trafford, Manceinion | 9 Gorffennaf 2019 | 10 Gorffennaf 2019 |
Gêm gynderfynol 2 | Edgbaston, Birmingham | 11 Gorffennaf 2019 | 12 Gorffennaf 2019 |
Gêm derfynol | Lord's, Llundain | 14 Gorffennaf 2019 | 15 Gorffennaf 2019 |
Os nad ydym wedi ateb popeth mae angen i chi ei wybod, anfonwch e-bost atom ynFlagTeam@CWC19.co.uk